Bwriad yr adnodd hwn ydy cefnogi dysgwyr sy’n astudio cwrs CBAC TGAU Addysg Gorfforol trwy gyfres o ffilmiau, animeiddiadau a thasgau rhyngweithiol. Y prif feysydd sy’n cael eu trafod ydy strwythur a gweithrediad y systemau cardio-resbiradol a fasgiwlar, ac effeithiau hir dymor a byr dymor ymarfer corff ar y systemau hyn. Mae pob fideo yn cyflwyno’r wybodaeth angenrheidiol yn unol â gofynion y cwricwlwm TGAU, ac fe’u dilynir gan dasgau rhyngweithiol sy’n atgyfnerthu’r dysgu ac yn datblygu’r sgiliau sydd angen i ateb cwestiynau yn yr arholiad.

1 System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon 2 System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon 3 System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar 4 System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed 5 System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar 6 System Resbiradol: Strwythur 7 System Resbiradol: Gweithrediad 8 System Resbiradol: Anadlu 9 System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint 10 Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff 11 Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff 12 Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff 13 Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff 14 Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff 15 Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff 16 Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff 17 Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff