System Resbiradol: Strwythur

1. Cysylltwch y termau at eu diffiniadau.

Bronci
Tracea
Alfeoli
Bronciolau
Mae aer yn mynd o'r bronci i'r rhain. Ar ddiwedd y rhain mae'r alfeoli.
Isrannu'n fronciolau niferus, yn debyg i ganghennau coeden.
Sachau aer bach. Strwythur tebyg i rawnwin gyda waliau celloedd tenau iawn a rhwydwaith trwchus o gapilarïau o'u cwmpas. Safle cyfnewid nwyol.
Tiwb 2-3cm o led sydd â waliau sy'n cynnwys cylchoedd o gartilag stiff sy'n sicrhau ei fod yn cael ei gadw ar agor. Mae gan y tracea leinin hefyd o strwythurau bach iawn, tebyg i flew, o'r enw cilia. Mae’r cilia'n ysgubo unrhyw hylifau a gronynnau estron allan o'r llwybr anadlu, gan eu cadw rhag mynd i'r ysgyfaint. Mae’n rhannu’n 2 fronci.

2. Amlinellwch y broses sydd ar waith yn ystod mewnanadliad (h.y. pan fyddwn yn anadlu aer i mewn).

Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Mae’r diaffram yn cyfangu ac yn tynnu tuag i lawr ac mae’r cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu a chodi’r gawell asennol i fyny ac allan. Mae hyn yn cynyddu’r cyfaint yn yr ysgyfaint wrth i’r aer gael ei anadlu i mewn. Mae aer yn teithio mewn drwy’r trwyn (a thrwy’r geg yn ystod ymarfer corff dwysach) ac i lawr y tracea (piben wynt). Mae’r aer wedyn yn teithio mewn i’r bronci, yna’r bronciolau cyn cyrraedd yr alfeoli. Dyma ble mae cyfnewid nwyol yn digwydd.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)