Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff
1. Nodwch yr addasiadau tymor hir neu gronig i ymarfer corff sy'n digwydd yn y system resbiradol.
2. Amlinellwch yr addasiadau tymor hir sy’n sy’n digwydd o ganlyniad i gymryd rhan yn rheolaidd mewn ymarfer aerobig ac esboniwch sut y gall y rhain arwain at wella perfformiad ac iechyd.
Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.
Gallai atebion gynnwys:
- Cynnydd ym maint a chryfder y galon gan arwain at y galon yn medru pwmpio mwy o waed fesul curiad.
- Cynnydd mewn cyfaint strôc wrth i’r galon gynyddu mewn maint a chryfder
- Cynnydd mewn allbwn cardiaidd ar unrhyw gyfradd curiad y gallon o ganlyniad i gynnydd mewn cyfaint strôc
- Cynnydd yn y cyfanswm o waed a all gael ei bwmpio allan o’r galon yn ystod ymarfer macsimal.
- Cynnydd yn y gallu i ddosbarthu gwaed i gyhyrau gweithredol
- Cyfradd curiad y galon is wrth orffwys yn sgil cyfaint strôc uwch o ganlyniad i gynnydd ym maint a chryfder y galon
- Cynnydd yng nghyfanswm cyfaint y gwaed sy’n golygu y gall gwaed gario mwy o ocsigen i’r cyhyrau gweithredol a mwy o garbon deuocsid yn ôl i’r ysgyfaint
- Cynnydd yn nifer y celloedd coch gan olygu bod gwaed yn gallu cario mwy o ocsigen i’r cyhyrau gweithredol a mwy o garbon deuocsiid yn ôl i’r ysgyfaint
Effaith ar berfformiad wrth wneud chwaraeon:
Mae effeithiau ar berfformiad yn gysylltiedig â chynnydd mewn ffitrwydd cardiofasgiwlar a thrwy hynny y gallu i ymarfer am gyfnodau hirach ac ar ddwysedd uwch am gyfnodau hirach. Hefyd, y gallu i adfer yn gyflymach ar ôl ymarfer ar wahanol raddau o ddwysedd.
Effeithiau ar iechyd:
Mae’n helpu i gadw pwysedd gwaed o fewn rhychwant iach.
3. Esboniwch sut y gall cyfradd curiad calon unigolyn sy’n gorffwys roi syniad da o lefelau ffitrwydd cardiofasgiwlar.
Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.
Bydd cyfradd curiad calon gorffwysol yn is mewn unigolion sydd â lefelau uwch o ffitrwydd cardiofasgiwlar. Mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn cyfaint strôc gorffwysol yn sgil cynnydd ym maint a chryfder y galon, ar ôl ymarfer cardiofasgiwlar. Wrth i’r galon allu pwmpio mwy o waed fesul curiad, does dim rhaid iddi guro mor aml o fewn munud er mwyn cynnal allbwn cardiaidd o 5 L/mun. Golyga hyn fod cyfradd curiad calon orffwysol yn is.
System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon
(1)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon
(2)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar
(3)
System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed
(4)
System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar
(5)
System Resbiradol: Strwythur
(6)
System Resbiradol: Gweithrediad
(7)
System Resbiradol: Anadlu
(8)
System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint
(9)
Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff
(10)
Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff
(11)
Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff
(12)
Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff
(13)
Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff
(14)
Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff
(15)
Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff
(16)
Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff
(17)