System Resbiradol: Anadlu

1. Nodwch a yw'r symudiadau canlynol yn digwydd i ysgogi anadlu i mewn neu anadlu allan, drwy glicio ar y term cywir o dan bob disgrifiad.

Mae’r diaffram yn cyfangu, yn lefelu ac yn symud i lawr.

Mae’r cyhyrau rhyngasennol allanol yn cyfangu, gan dynnu'r asennau i fyny ac allan.

Mae’r diaffram a’r cyhyrau rhyngasennol allanol yn ymlacio, ac yn mynd yn ôl i'w safleoedd gwreiddiol.

2. Disgirifwch y broses sydd ar waith mewn awyru ysgyfeiniol (anadlu). Defnyddiwch bob un o’r termau allweddol isod yn eich ateb. Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Mewnanadliad | allanadliad | diaffram | cawel asennol | cyfaint | gwasgedd | atmosffêr

Yn ystod mewnanadliad, mae’r diaffram yn cyfangu ac yn tynnu tuag i lawr tra bod y cyhyrau rhyngasennol yn cyfangu gan dynnu cawell yr asennau i fyny ac allan. Mae hyn yn arwain at gynyddu cyfaint yr ysgyfaint sydd wedyn yn lleihau’r gwasgedd tu fewn i’r ysgyfaint. Gan fod y gwasgedd y tu fewn i’r ysgyfaint yn llai na gwasgedd yr aer yn yr atmosffêr, mae aer yn cael ei dynnu mewn i’r ysgyfaint o’r atmosffêr.

Yn ystod allanadliad, mae’r diaffram yn ymlacio ac yn symud tuag i fyny tra bod y cyhyrau rhyngasennol yn ymlacio gan olygu fod y gawell asennol yn symud tuag i lawr ac i mewn. Arweinia hyn at leihad yng nghyfaint yr ysgyfaint sydd wedyn yn cynyddu’r gwasgedd y tu fewn i’r ysgyfaint. Gan fod y gwasgedd y tu fewn i’r ysgyfaint yn uwch na gwasgedd yr aer yn yr atmosffêr, mae aer yn cael ei dynnu allan o’r corff tua’r atmosffêr.

3. Amlinellwch 3 gwahaniaeth rhwng y weithred o anadlu wrth orffwys ac yn ystod ymarfer corff.

Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Yn ystod allanadliad, mae’r diaffram yn ymlacio ac yn symud tuag i fyny tra bod y cyhyrau rhyngasennol yn ymlacio gan olygu fod y gawell asennol yn symud tuag i lawr ac i mewn. Arweinia hyn at leihad yng nghyfaint yr ysgyfaint sydd wedyn yn cynyddu’r gwasgedd y tu fewn i’r ysgyfaint. Gan fod y gwasgedd y tu fewn i’r ysgyfaint yn uwch na gwasgedd yr aer yn yr atmosffêr, mae aer yn cael ei dynnu allan o’r corff tua’r atmosffêr.

Mae mwy o newid o ran cyfaint hir a gwasgedd wrth ymarfer corff.

Wrth ymarfer corff mae allanadlu yn cael ei orfodi/yn weithredol tra bod allanadliad yn oddefol pan yn gorffwys.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)