System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar

1. Llusgwch enwau’r pibellau gwaed i'r lleoedd cywir ar y diagram isod.

Gallwch ailgychwyn y gweithgaredd trwy wasgu’r botwm glas ar y dde. Nid oes modd symud labelu o un man i’r llall.
Gwythiennau
Rhydwelïau
Capilarïau
Rhydweliynnau
Gwythienigau

2. Cysylltwch y pibellau gwaed at eu diffiniadau.

Rhydwelïau
Gwythiennau
Capilarïau
Rhydweliynnau
Gwythienigau
Canghennau llai o rydwelïau sy'n gallu rheoli dosbarthiad y gwaed drwy fasogyfyngu a fasoymledu.
Pibellau cyhyrol mawr sy'n cario gwaed i ffwrdd o'r galon.
Pibellau gwaed sy'n cario gwaed yn ôl i'r galon dan bwysedd is. Yn cynnwys falfiau er mwyn osgoi ôl-lifiad y gwaed.
Yn casglu gwaed o'r capilarïau sydd wedyn yn uno mewn pibellau mwy o'r enw gwythiennau.
Pibellau gwaed bach gyda waliau sy’n un gell o drwch yn unig. Y safle ar gyfer cyfnewid nwyon a maetholion (Ocsigen a Charbon Deuocsid) rhwng celloedd gwaed a meinweoedd.

3. Esboniwch sut mae dosbarthiad y gwaed i wahanol rannau o’r corff yn cael eu dylanwadu gan gelloedd gwaed wrth ymarfer.

Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Mae rhydwelïynnau yn cynnwys haen o gyhyr esmwyth sy’n medru cyfangu ac ymlacio. Pan yn tynhau, bydd yn rhwystro llif y gwaed sy’n golygu fod llai o waed yn llifo mewn proses a elwir yn Fasogyfyngiad. Pan fo’r haen o gyhyr yn ymlacio mae’n caniatáu i fwy o waed lifo mewn proses a elwir yn Fasoymlediad. Yn ystod ymarfer, mae gwaed yn cael ei ail-ddosbarthu i gyhyrau gweithredol o organau dianghenraid gan fod angen mwy o ocsigen ar y cyhyrau. Er mwyn galluogi hyn, mae rhydwelïynnau sy’n arwain at organau dianghenraid fel yr afu (iau) a’r stumog yn fasogyfyngu tra bod rhydwelïynnau sy’n arwain at gyhyrau gweithredol yn fasoymledu.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)