Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff
1. Nodwch yr addasiadau tymor byr i ymarfer corff sy'n digwydd yn y system gardiofasgwlaidd.
2. Nodwch ac esboniwch 4 ymateb byr dymor/llym i ymarfer y system gardiofasgiwlar.
Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.
4 marc am ysgrifennu unrhyw bedwar o’r canlynol:
- Mae cyfradd curiad y galon yn codi cyn ymarfer corff yn sgil rhyddhau adrenalin gyda’r disgwyliad o wneud ymarfer corff.
- Mae cyfradd curiad y galon yn cynyddu mewn ymateb i ddwyster yr ymarfer er mwyn cynyddu llif y gwaed i’r cyhyrau gweithredol.
- Mae cyfaint strôc yn cynyddu er mwyn cynyddu llif y gwaed i’r cyhyrau gweithredol.
- Mae cynnydd mewn pwysedd gwaed yn helpu gwaed i deithio’n gyflymach tua’r cyhyrau gweithredol ac yn ôl i’r galon er mwyn ail-ocsigeneiddio’r gwaed a diddymu isgynnyrch diwerth.
- Mae gwaed yn cael ei ail-ddosbarthu o ardaloedd o alw isel (e.e. stumog, afu/iau) i ardaloedd o alw uchel
- Mae gwaed yn cael ei gyfeirio tuag at y croen er mwyn cynyddu’r gwres a gollir a rheoli tymheredd y corff.
System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon
(1)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon
(2)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar
(3)
System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed
(4)
System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar
(5)
System Resbiradol: Strwythur
(6)
System Resbiradol: Gweithrediad
(7)
System Resbiradol: Anadlu
(8)
System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint
(9)
Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff
(10)
Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff
(11)
Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff
(12)
Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff
(13)
Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff
(14)
Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff
(15)
Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff
(16)
Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff
(17)