Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff
1. Nodwch yr addasiadau tymor hir neu gronig i ymarfer corff sy'n digwydd yn y systemau ysgerbydol a chyhyrol.
2. Mae ymarfer cyson mewn ymarfer sy’n ymwneud â chodi pwysau yn gallu cynnal a chynyddu dwysedd yn yr esgyrn. Esboniwch y buddiannau posib a ddaw o’r fath addasiad tymor hir.
Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.
- Bydd esgyrn yn gallu gwrthsefyll grymoedd uwch yn y dyfodol ac felly yn llai tebygol o gael eu hanafu wrth wneud chwaraeon cyd-daro fel rygbi.
- Mae cynnydd yn nwysedd yr esgyrn yn golygu y byddwch yn llai tebygol o ddatblygu cyflyrrau fel osteoporosis yn ddiweddarach mewn bywyd.
3. Nodwch yr addasiadau sy’n deillio o gymryd rhan yn rheolaidd mewn ymarfer gwrthiant fel codi pwysau ac eglurwch sut y gall hyn helpu i wella perfformiad mewn camp o’ch dewis.
Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.
Addasiadau:
- Cryfder cynyddol meinweoedd cyswllt fel gewynnau a thendonau.
- Cynnydd yng nghryfder y cyhyrau sy'n golygu y gallant gyfangu gyda mwy o rym ac felly goresgyn mwy o wrthiant.
- Cynnydd ym maint y cyhyrau (hypertrophy cyhyrau).
Sut mae’r addasiadau yn gwella perfformiad:
- Dylai’r ateb gysylltu sut y mae cynyddu grym yn gwella perfformiad. Er enghraifft, cicio pêl yn galetach wrth chwarae pêl-droed, codi pwysau uwch wrth godi pwysau, pasio pêl gyda mwy o rym wrth chwarae pêl-rwyd neu hoci, teithio’n gynt mewn caiac gan y byddwch yn gallu tynnu’r dŵr gyda mwy o rym.
System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon
(1)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon
(2)
System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar
(3)
System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed
(4)
System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar
(5)
System Resbiradol: Strwythur
(6)
System Resbiradol: Gweithrediad
(7)
System Resbiradol: Anadlu
(8)
System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint
(9)
Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff
(10)
Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff
(11)
Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff
(12)
Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff
(13)
Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff
(14)
Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff
(15)
Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff
(16)
Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff
(17)