System Resbiradol: Gweithrediad

1. Labelwch gyfeiriad y nwyon wrth iddyn nhw gyfnewid yn yr ysgyfaint.

Haemoglobin
Capilari
CO2
O2

2. Labelwch gyfeiriad y nwyon wrth iddyn nhw gyfnewid yn y cyhyrau sy'n gweithio.

CO2
O2
Capilari

3. Gan ddefnyddio bob un o’r termau allweddol a restrir isod, amlinellwch y broses o gyfnewid nwyol sy’n digwydd yn y rhwydwaith alfeoli-capilarïau. Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

cyfnewid nwyol | trylediad | crynodiad uwch | crynodiad is | ocsigen | carbon deuocsid | capilarïau | alfeoli

Cyfnewid nwyol yw’r broses lle mae carbon deuocsid yn teithio i mewn i’r ysgyfaint er mwyn cael ei anadlu allan ac mae ocsigen yn teithio mewn i lif y gwaed er mwyn cael ei gludo i’r cyhyrau/celloedd gweithredol trwy broses a elwir yn ‘trylediad’. Mae trylediad yn ymwneud â symud sylweddau o ardal o grynodiad uwch i grynodiad is. Mae’r alfeoli yn cynnwys aer sy’n llawn o ocsigen (h.y. crynodiad uwch o ocsigen) tra bod gan y capilarïau grynodiad is o ocsigen. Felly, mae ocsigen yn tryledu o’r alfeoli mewn i’r gwaed yn y capilarïau. Serch hynny, mae’r capilarïau yn cynnwys crynodiad uwch o garbon deuocsid tra bod yr alfeoli yn cynnwys crynodiad is o garbon deuocsid. Felly, mae carbon deuocsid yn tryledu o’r gwaed yn y capilarïau tuag at yr alfeoli er mwyn cael ei anadlu allan i’r atmosffêr.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)