System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar

1. Dewiswch y DDAU ateb cywir i’r cwestiwn isod:

Beth sydd ei angen ar y cyhyrau i gynhyrchu egni ar gyfer symud?

2. Llenwch y bylchau yn y frawddeg ganlynol trwy lusgo a gollwng yr ymatebion cywir:

ocsigen
cemegol
aerobig
carbon deuocsid
cinetig
anaerobig
Wrth ymarfer corff, mae cyhyrau'n cynhyrchu ac yn defnyddio egni’n barhaus. Maen nhw'n troi egni
yn symudiad neu’n egni
.

3. Nodwch pa un o'r canlynol sy'n disgrifio Resbiradaeth Aerobig a Resbiradaeth Anaerobig trwy lusgo’r termau i’r lle cywir.

Resbiradaeth Anaerobig
Resbiradaeth Aerobig
Ymarfer dwysedd isel lle mae cyflenwad digonol o ocsigen a charbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu fel cynnyrch gwastraff Ymarfer mwy dwys lle mae'r cyhyrau'n gweithio'n galetach ac asid lactig yn cael ei gynhyrchu fel cynnyrch gwastraff

4. Disgrifiwch sut mae'r system gardiofasgwlar yn helpu'r corff i reoli gwres wrth i ni ymarfer corff.

Teipiwch eich ateb yn y bocs, ac yna gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Mae cyhyrau sy’n cyfangu hefyd yn cynhyrchu gwres, a dyna pam rydyn ni'n dechrau teimlo'n gynhesach pan fyddwn ni'n gwneud ymarfer corff. Mae gormod o wres yn niweidiol i'r corff felly mae'n rhaid cael gwared arno. Mae'r system gardiofasgwlar yn cludo'r gwres o'r cyhyrau sy’n gweithio i'r croen, lle mae’n gallu cael ei golli i'r atmosffer. Gallwn ni weld ein croen, yn enwedig ein hwynebau, yn troi'n goch pan fyddwn ni’n gwneud ymarfer corff dwys - mae hyn am fod llif y gwaed i'r croen yn cynyddu, er mwyn colli mwy o wres.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)