System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon

1. Labelwch y galon.

Llusgwch y termau i'r lle cywir ar ddiagram y galon isod. Gallwch ailgychwyn y gweithgaredd trwy wasgu’r botwm glas ar y dde. Nid oes modd symud labelu o un man i’r llall.
Rhydweli Ysgyfeiniol
Atriwm Chwith
Atriwm De
Aorta (Isel)
Aorta
Falf Deirlen
Fentrigl Chwith
Fentrigl De
Gwythïen Ysgyfeiniol
Vena Cava
Falf Ddwylen

2. Disgrifiwch drywydd gwaed ocsigenedig a diocsigenedig drwy’r galon.

Gwiriwch eich ateb yn erbyn yr ateb delfrydol.

Gwaed Ocsigenedig
Mae gwaed ocsigenedig yn pwmpio i’r galon o’r ysgyfaint drwy’r Wythïen Ysgyfeiniol i’r Atriwm Chwith. O’r fan hon mae’n teithio drwy’r falf ddwylen i mewn i’r Fentrigl Chwith. Yna mae’r gwaed ocsigenedig yn teithio drwy’r falf gilgant ac allan o’r galon drwy’r Aorta ac o gwmpas y corff.

Gwaed Diocsigenedig
Mae gwaed diocsigenedig yn pwmpio i’r galon o’r corff drwy’r Vena Cava (uwch ac is) i mewn i’r Atriwm Dde. O fan hyn mae’n teithio drwy’r falf deirlen i’r Fentrigl Dde. Nesaf, mae’r gwaed diocsigenedig yn teithio drwy falf gilgant ac yna drwy’r Rhydweli Ysgyfeiniol i’r ysgyfaint.

System Gardiofasgwlar: Strwythur y Galon (1) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y Galon (2) System Gardiofasgwlar: Gweithrediad y System Gardiofasgwlar (3) System Gardiofasgwlar: Pwysedd Gwaed (4) System Gardiofasgwlar: Y System Fasgwlar (5) System Resbiradol: Strwythur (6) System Resbiradol: Gweithrediad (7) System Resbiradol: Anadlu (8) System Resbiradol: Cyfaint yr Ysgyfaint (9) Cyflwyniad i effeithiau hirdymor a byrdymor ymarfer corff (10) Ymatebion cardiofasgwlar byrdymor i ymarfer corff (11) Ymatebion resbiradol byrdymor i ymarfer corff (12) Ymatebion cyhyrol a sgerbydol byrdymor i ymarfer corff (13) Cyflwyniad i addasiadau hirdymor o ganlyniad i ymarfer corff (14) Addasiadau hir dymor cardiofasgwlar o ganlyniad i ymarfer corff (15) Addasiadau hir dymor resbiradol o ganlyniad i ymarfer corff (16) Addasiadau hir dymor cyhyrol a sgerbydol o ganlyniad i ymarfer corff (17)